Diweddariad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Annwyl gyfaill

 

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

 

Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ar 13 Chwefror 2023, a gwnaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror.

 

Mae’r Bil wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i graffu arno. Os oes gennych safbwyntiau ar y Bil, gallwch eu rhannu â ni drwy ymateb i’n galwad am dystiolaeth ysgrifenedig erbyn 15 Mawrth 2023.

 

Rydym yn cydnabod bod yr amserlenni’n dynn. Mae’r terfyn amser hwn wedi’i bennu er mwyn gallu ystyried cyflwyniadau ysgrifenedig pan fydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Canserau gynaecolegol

Daeth ein hymgynghoriad ar Ganserau Gynaecolegol i ben ar 13 Ionawr 2013. Diolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth. Fodd bynnag, oherwydd ein gwaith sydd ar ddod ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), ni fyddwn yn dechrau cymryd tystiolaeth lafar tan ar ôl y Pasg ac felly mae amser o hyd i gyflwyno eich safbwyntiau inni. Mae'r cylch gorchwyl llawn ar gael ar ein gwefan byddem yn croesawu eich safbwyntiau ar bob un ohonynt, neu unrhyw rai ohonynt, erbyn 17 Mawrth.

 

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

 

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 ar 3 Chwefror 2023.

Siaradodd ein Cadeirydd, Russell George AS, ynghylch ein hargymhellion yn ystod dadl y Cyfarfod Llawn ar y gyllideb ddrafft ar 7 Chwefror 2023.

 

Deintyddiaeth

 

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar Ddeintyddiaeth ar 15 Chwefror 2023.

 

Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’n hargymhellion erbyn 29 Mawrth 2023.

 

Pwyllgor y Bumed Senedd: gwaith dilynol

Rydym wedi cyhoeddi tudalen newydd ar ein gwefan lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwaith rydym wedi'i wneud i ddilyn yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y Bumed Senedd. Fe welwch y wybodaeth ddiweddaraf yno am waith Pwyllgor y Bumed Senedd ar iechyd meddwl, endosgopi a hepatitis C, ymhlith materion eraill.

 

Penodiadau cyhoeddus

Byddwn yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ar 2 Mawrth 2023 gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Ym mis Ionawr 2023 gwnaethom ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fel rhan o waith y Pwyllgor hwnnw ar benodiadau cyhoeddus i rannu ein profiadau o gynnal gwrandawiadau cyn ac ar ôl penodi yn ystod y Chweched Senedd.

 

Gwaith arall y Pwyllgor

 

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yma, ynghyd â'i flaenraglen waith, ar ein gwefan.

 

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ar Twitter yn @seneddiechyd.

 

Rydych yn cael yr e-bost hwn gan eich bod wedi gofyn yn flaenorol am gael gwybod am ymchwiliadau newydd y Pwyllgor.

 

Os nad ydych am gael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod inni drwy anfon neges at: SeneddIechyd@senedd.cymru

 

Health and Social Care Committee update

Dear colleague

 

Health Service Procurement (Wales) Bill

 

The Minister for Health and Social Services introduced the Health Service Procurement (Wales) Bill on 13 February 2023, and made a statement in Plenary on 14 February.

 

The Bill has been referred to the Health and Social Care Committee for scrutiny. If you have views on the Bill, you can share them with us by responding to our call for written evidence by 15 March 2023.

 

We recognise that the timescales are tight. This deadline has been set to enable written submissions to be taken into account when the Committee takes oral evidence from the Minister for Health and Social Services.

 

Gynaecological Cancers

Our consultation on Gynaecological Cancers closed on 13 January 2013. Thank you to everyone who submitted evidence. However, due to our forthcoming work on the Health Service Procurement (Wales) Bill, we won’t start taking oral evidence until after Easter so there’s still time to let us have your views. The full terms of reference are available on our website and we’d welcome your views on all, or any, of them by 17 March.

 

Welsh Government draft budget 2023-24

 

We published our report on the Welsh Government’s draft Budget 2023-24 on 3 February 2023.

Our Chair, Russell George MS, spoke about our recommendations during the Plenary debate on the draft budget on 7 February 2023.

 

Dentistry

 

We published our report on Dentistry on 15 February 2023.

 

The Welsh Government is due to respond to our recommendations by 29 March 2023.

 

Fifth Senedd Committee: follow up work

We’ve published a new page on our website where you can find information about the work we’ve done to follow up the recommendations made by our predecessor Committee in the Fifth Senedd. You’ll find updates there on the Fifth Senedd Committee’s work on mental health, endoscopy and hepatitis C, among other issues.

 

Public appointments

We’ll be holding a pre-appointment hearing on 2 March 2023 with the Welsh Government’s preferred candidate for the Chair of Cwm Taf Morgannwg University Health Board.

 

In January 2023 we wrote to the Public Accounts and Public Administration Committee as part of that Committee’s work on public appointments to share our experiences of holding pre- and post-appointment hearings during the Sixth Senedd.

 

Other Committee activity

 

You can find details of the Committee’s work to date, and its upcoming work programme on our website.

 

You can also keep up with the Committee’s work by following us on Twitter at @seneddhealth.

 

You are receiving this email as you have previously asked to be notified of new Committee inquiries.

 

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales.